www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Hawddfreintiau mewn prydlesi Contents Previous Next

    Prydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 parhad

    Prydlesi nad oes modd eu cofrestru neu eu nodi

    Ac eithrio rhai prydlesi rifersiynol, nid oes modd cofrestru neu nodi prydlesi dyddiedig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 am gyfnod o dair blynedd neu lai. Nid oes rhaid i'r math hwn o brydles fod trwy weithred, ond os yw gweithred wedi cael ei defnyddio rhaid i unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol a roddir yn y brydles dros dir cofrestredig gael eu cofrestru bob amser.

    • Os yw'r brydles trwy weithred, rhaid defnyddio ffurflen AP1 i gofrestru'r hawddfraint yn erbyn y tir caeth oherwydd ni fydd defnyddio ffurflen AN1 neu UN1 yn bodloni gofynion cofrestru adran 27. Bydd nodyn i'r perwyl hwn yn cael ei ychwanegu at y cofnod ar y gofrestr os yw ffurflen AN1 wedi cael ei defnyddio. Gall fod angen ffurflen DI hefyd fel a nodwyd yn gynharach.
    • Os nad yw'r brydles trwy weithred, ond yn ysgrifenedig yn unig, bydd unrhyw hawddfreintiau yn y brydles yn ecwitïol yn unig oherwydd rhaid creu hawddfreintiau cyfreithiol trwy weithred. Yn yr achos hwn nid yw'r hawddfreintiau yn warediad cofrestradwy a gellir eu nodi yn unig trwy ddefnyddio ffurflen AN1 neu UN1. Nid oes angen ffurflen DI.
    • Os yw'r tir caeth yn ddigofrestredig dylid gwarchod yr hawddfreintiau trwy bridiant tir Dosbarth D(iii).

    Dyma ddiwedd y bennod ar hawddfreintiau mewn prydlesi.