Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Opsiynau mewn prydlesi Contents Previous Next

Mae'r adran hon yn ymwneud ag opsiynau sydd wedi'u cynnwys mewn prydlesi yn unig. Mae opsiynau sydd wedi'u cynnwys mewn gweithredoedd ar wahân yn cael eu trafod yn Atodiad A Cyfarwyddyd Ymarfer 19 y Gofrestrfa Tir - Rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

Pwyntiau cyffredinol

Bydd y Gofrestrfa Tir yn nodi opsiwn neu hawl rhagbrynu yn y teitl sy'n dwyn y baich yn unig. Er enghraifft, byddwn yn cofnodi yn nheitl y landlord opsiwn tenant i brynu'r rifersiwn. Yn yr un modd byddwn yn cofnodi hawl landlord i brynu'r ystad brydlesol yn nheitl tenant.

Cymalau terfynu

Mae cymal terfynu yn caniatáu i'r parti perthnasol (fel rheol y tenant) derfynu prydles cyn diwedd y tymor penodedig. Os yw'r cymal yn ddim mwy na darpariaeth i ganiatáu terfynu'r brydles yn gynnar, nid yw'n fudd sy'n effeithio ar yr ystad gofrestredig. Atebolrwydd yw sy'n berthynol i'r brydles ac ni ellir ei nodi yn y gofrestr (gweler adran 12(4) DCT 2002 yn achos cofrestriadau cyntaf, neu adran 29(2)(b) yn achos gwarediadau cofrestredig).

Os oes rhwymedigaeth i derfynu gall hyn arwain at gontract ystad o blaid y landlord  (Greene yn erbyn Church Commissioners [1974] Ch 457) sy'n effeithio'n wrthwynebus ar deitl y tenant. Gellir nodi hyn fel rhybudd a gytunwyd neu unochrog.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod opsiynau eraill mewn prydlesi y gellir eu nodi.