Opsiynau y gellir eu nodi Mae opsiynau o blaid tenant y gellir eu nodi yn cynnwys hawl i: - adnewyddu'r brydles
- gaffael prydles arall
- brynu'r rifersiwn ar unrhyw adeg a gytunwyd yn flaenorol
- brynu'r ystad rifersiynol neu ryw dir arall os yw'r landlord yn penderfynu gwerthu (gelwir hyn hawl rhagbrynu neu wrthodiad cyntaf).
Mae opsiynau o blaid landlord y gellir eu nodi yn cynnwys: - cyfamod gan y tenant i ildio, neu i gynnig ildio'r brydles lle nad oes angen cyflwyno rhybudd (ee cyn i'r tenant aseinio'r brydles)
- hawl rhagbrynu sy'n rhoi gwrthodiad cyntaf i'r landlord os yw'r tenant yn penderfynu gwerthu'r ystad brydlesol.
Cais i nodi opsiwn Mewn rhai achosion bydd y Gofrestrfa Tir yn nodi opsiwn yn awtomatig heb gais ar wahân; mewn achosion eraill bydd angen cais ar ffurflen AN1 neu UN1. Ar gyfer prydlesi cymalau penodedig, gweler y modiwl sy'n trafod y maes hwnnw. |