Opsiynau o blaid y landlord - nid yw'r brydles yn brydles cymalau penodedig Cofrestriad cyntaf teitl y tenant
Bydd y Gofrestrfa Tir yn nodi rhybudd o faich yr opsiynau yn nheitl y tenant heb gais ar wahân ar yr amod eu bod naill ai: - wedi'u rhestru mewn mynegai i'r brydles, neu
- eu bod yn hawdd eu hadnabod trwy bennawd ochr.
Mae teitl y tenant yn warediad tir cofrestredig - Os rhoddwyd prydles y tenant cyn 19 Mehefin 2006, ni nodir yr opsiwn ar deitl y tenant oni wneir cais ar wahân ar ffurflen AP1, AN1 neu UN1.
- Os rhoddir prydles y tenant ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006, nid oes angen cais ar wahân. Nodir baich yr opsiwn pan gaiff y brydles ei chofrestru.
Nid oes modd cofrestru prydles y tenant Os nad oes modd cofrestru prydles y tenant, rhaid cofrestru baich yr opsiwn fel pridiant tir Dosbarth C(iv).
Dyma ddiwedd y bennod ar opsiynau mewn prydlesi. |