Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Opsiynau mewn prydlesi Contents Previous Next

Opsiynau o blaid y tenant - nid yw'r brydles yn brydles cymalau penodedig

Cofrestru prydles y tenant fel cofrestriad cyntaf

  • Os yw teitl y landlord yn ddigofrestredig, dylid diogelu'r opsiwn fel pridiant tir Dosbarth C(iv).
  • Os yw teitl y landlord yn gofrestredig, ac mae'r brydles yn brydles Perchnogaeth a Rennir nodir baich yr opsiwn ar deitl y landlord heb gais ar wahân.
  • Os yw teitl y landlord yn gofrestredig ond nid yw'r brydles yn brydles Perchnogaeth a Rennir, nodir baich yr opsiwn ar deitl y landlord dim ond os caiff cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu UN1 ei gyflwyno, neu os ychwanegir manylion y cais at y ffurflen FR1 a gyflwynwyd gyda'r brydles.

Cofrestru prydles y tenant fel gwarediad ystad gofrestredig

Yn achos prydles Perchnogaeth a Rennir nid oes angen cais ar wahân. Ar gyfer unrhyw brydles arall:

  • Os rhoddir y brydles cyn 19 Mehefin 2006, nodir baich yr opsiwn ar deitl y landlord dim ond os cyflwynir cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu UN1.
  • Os rhoddir y brydles ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006, nid oes angen cais ar wahân lle bo'r opsiwn yn effeithio ar y teitl rifersiynol. Fel arall, rhaid gwneud cais ar wahân ar ffurflen AP1.

Mae prydles y tenant o dir cofrestredig ond nid oes modd ei chofrestru

Os nad oes modd cofrestru prydles y tenant, dylid gwneud cais i nodi baich opsiwn yn nheitl y landlord ar ffurflen AN1 neu UN1.

Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar opsiynau o blaid y landlord.