Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cynlluniau prydlesi Contents Previous Next

Cyflwyniad

Amcan y bennod hon yw tynnu sylw at y problemau mwyaf cyffredin sy'n codi gyda chynlluniau prydlesi ac awgrymu ffyrdd o'u datrys.

Oes angen cynllun?

Y pwynt cyntaf i'w ystyried yw a oes angen cynllun. Mewn rhai achosion mae cynllun yn wirfoddol; ond mae'n orfodol mewn achosion eraill.

  • Mae rheol 24 RhCT 2003 yn mynnu bod cais am gofrestriad cyntaf yn cynnwys 'manylion digonol, trwy gynllun neu fel arall ... er mwyn gallu adnabod y tir yn glir ar y map Arolwg Ordnans.'
  • Gyda deliadau â rhan o deitl cofrestredig, mae rheol 213 RhCT 2003 yn mynnu bod '...rhaid i ddogfen a gyflwynir i'r Gofrestrfa Tir sy'n delio â rhan o'r tir mewn teitl cofrestredig gynnwys cynllun sy'n adnabod yn glir y tir dan sylw'. Fodd bynnag, os oes modd adnabod yn glir y tir a brydlesir ar gynllun teitl cofrestredig y landlord, mae cyfeiriad geiriol at y cynllun hwnnw yn dderbyniol (rheol 213(4)).
  • Gyda phrydlesi cymalau penodedig, mae geiriad cymal LR4 yn nodi bod rhaid atodi cynllun i'r prydles lle bo rhan yn cael ei gosod.

Os defnyddir cynllun rhaid iddo gael ei arwyddo gan y landlord, a rhaid iddo fod o ansawdd digonol er mwyn gallu adnabod stent cywir y tir. Os yw cynllun ystad cymeradwy yn bod, rhaid i unrhyw gynllun a ddefnyddir yn y brydles gael ei seilio ar y fersiwn cymeradwy cyfredol.

 

 

Mae'r dudalen nesaf yn trafod gofynion y Gofrestrfa Tir ar gyfer cynlluniau.