Crynodeb - Penderfynwch yn gyntaf a oes angen cynllun. 'Oes' fydd yr ateb os nad oes modd adnabod stent y tir a brydlesir yn fanwl gywir o ddisgrifiad geiriol yn unig.
- Ni ddylid ailddefnyddio hen gynlluniau neu gynlluniau sydd wedi dyddio.
- Rhaid i gynlluniau gael eu tynnu i raddfa gydnabyddedig (metrig yn unig) - os yw'r cynllun wedi cael ei leihau mewn maint, dylid dangos graddfa ddiwygiedig.
- Rhaid i unrhyw ddimensiynau a ddangosir fod mewn unedau metrig yn unig, i ddau le degol.
- Rhaid i gynlluniau ddangos digon o fanylion er mwyn gallu adnabod y tir yn y brydles ar y map Arolwg Ordnans.
- Ni ddylid defnyddio datganiadau ymwadiad - bydd cofrestriadau sy'n seiliedig ar gynllun sy'n cynnwys ymwadiad yn cael eu gwrthod.
- Ni ddylai ymylon neu gyfeiriadau lliw eraill guddio'r manylion ar y cynllun.
- Rhaid i gynlluniau copi sydd wedi'u hatodi i gopi o brydles fod yr un fath â'r cynllun gwreiddiol.
Dyma ddiwedd y bennod ar gynlluniau prydlesi. |