Gofynion y Gofrestrfa Tir Mae gofynion y Gofrestrfa Tir ar gyfer cynlluniau wedi'u nodi'n fanwl yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 40 y Gofrestrfa Tir - Cynlluniau'r Gofrestrfa Tir. Mae'r canlynol yn grynodeb o'r prif ofynion. - Rhaid i'r cynllun gael ei dynnu'n gywir i raddfa briodol (metrig yn unig), dangos ei wir raddfa a dangos ei gyfeiriadedd.
- Rhaid i unrhyw ddimensiynau a ddangosir fod mewn unedau metrig yn unig, i ddau le degol.
- Rhaid i'r cynllun ddangos digon o fanylion er mwyn gallu adnabod y tir yn y brydles (gan gynnwys unrhyw garej, storfa bin neu dir gardd) ar y map Arolwg Ordnans ac, os yw'n briodol, cynllun teitl y landlord.
- Rhaid i'r eiddo gael ei nodi'n glir trwy ddefnyddio lliwio, ymylu neu linellu addas.
- Ni ddylai ymylon fod mor drwm fel eu bod yn cuddio unrhyw fanylion eraill ar y cynllun.
- Rhaid nodi lefelau lloriau gwahanol ar y cynllun yn ogystal ag yn y disgrifiad geiriol yn y brydles.
- Rhaid peidio â defnyddio cymalau ymwadiad neu nodiadau sy'n datgan nad yw'r cynllun i raddfa neu at ddibenion adnabod yn unig; gall ceisiadau sy'n seiliedig ar gynlluniau o'r fath gael eu gwrthod.
- Rhaid i gyfeiriadau lliw ar y cynllun gyfateb â thestun y weithred.
- Rhaid bod y cynllun wedi'i lofnodi gan y landlord.
- Rhaid i'r copi o'r brydles gynnwys copi manwl gywir o'r cynllun gwreiddol.
Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar beth i'w osgoi wrth lunio cynllun. |