Enghraifft 3: llungopïau wedi'u lleihau |
 |
Pan gaiff cynllun ei lungopïo bydd yn colli ei gywirdeb yn aml, yn arbennig os yw wedi'i leihau mewn maint o A3 i A4.
Mae'r blwch graddfa a ddangosir yn gyferbyn yn cyfeirio at y raddfa fel "1:50 @ A3". Byddai hyn yn iawn pe byddai'r cynllun yn A3, ond os yw'n cael ei leihau i A4 nid yw o unrhyw ddefnydd o gwbl.
Mae'r raddfa (1:50) yn dderbyniol ond y graddfeydd a argymhellir yw 1/500 neu 1/1250 ar gyfer ardaloedd preswyl a 1/2500 ar gyfer ardaloedd gwledig. Yr anhawster yw gwybod yn sicr a yw maint y cynllun gwreiddiol wedi cael ei gadw. Ni ellir disgwyl i saff y Gofrestrfa Tir fesur cynlluniau i weld a ydynt yn faint penodol (A3) cyn defnyddio'r raddfa.
Bydd y Gofrestrfa Tir yn gwrthod ceisiadau os yw'r cynllun wedi cael ei leihau ond mae'n dal i ddangos y raddfa wreiddiol.
Mae'r dudalen nesaf yn dangos yr angen i ddarparu manylion amgylchynol y gellir eu cysylltu â'r map Arolwg Ordnans.