Beth ddylai cynllun o ansawdd da ei gynnwys - tŷ wedi'i drosi neu fflat uwchben siop ayb |
 |
Mae'r cynllun hwn yn cynnwys yr holl elfennau hanfodol, sef
— cynllun safle sy'n dangos manylion sy'n cyfateb â'r map Arolwg Ordnans
— cynlluniau lefel pob llawr
— graddfa gydnabyddedig ar gyfer y cynllun safle a chynlluniau lefel y lloriau
— pwynt y gogledd
— ymylu clir yn dangos y tir a brydlesir gan y brydles.
Mae pob un o'r elfennau wedi'u cynnwys o fewn un cynllun yn yr enghraifft hon, ond gall y cynllun lleoliad a chynllun manwl lefel y lloriau fod yn gynlluniau ar wahân.
Mae'r dudalen nesaf yn dangos cynllun ar gyfer datblygiad, fel bloc o fflatiau.