Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cyfamodau cyfyngu Contents Previous Next

Mae'r bennod hon yn ymwneud â chyfamodau cyfyngu sy'n gysylltiedig â thir y tu allan i stent y tir a brydlesir gan y brydles yn unig, a dyma'r unig ystyr sydd i gyfeiriadau at 'gyfamod(au) cyfyngu' yn y bennod hon.

Pwyntiau cyffredinol

Gall prydles gynnwys cyfamod cyfyngu wedi'i arwyddo gan landlord neu denant o blaid y llall. Ni ellir nodi cyfamod cyfyngu o'r fath mewn cofrestr teitl os yw'n effeithio ar yr un darn o dir a brydlesir (adran 33(c) DCT 2002). Fodd bynnag, gellir nodi cyfamodau sy'n effeithio ar dir cofrestredig arall y tenant neu'r landlord yng nghofrestr(i) y teitlau hynny. Enghraifft nodweddiadol fyddai pan fydd landlord yn gosod uned adwerthu i'w defnyddio fel archfarchnad ac yn cyfamodi gyda'r tenant i beidio â phrydlesu unrhyw unedau eraill ar y safle at yr un diben.

Nid oes rhaid i gyfamodau cyfyngu sydd wedi'u cynnwys mewn prydlesi a grëwyd cyn 13 Hydref 2003 gael eu cofrestru os nad yw'r brydles yn amodol ar gofrestru. Fodd bynnag, gellir cyflwyno cais ar ffurflen AN1 neu UN1 i nodi'r cyfamodau ar unrhyw deitl cofrestredig sy'n dwyn baich y cyfamodau.

Rhaid i gyfamodau cyfyngu mewn prydles a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2002 gael eu nodi ar y teitl sy'n dwyn y baich, fel arall ni fyddant yn rhwymo prynwr olynol am werth y tir sy'n dwyn y baich (adran 29(1) DCT 2002). Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os nad oes modd cofrestru neu nodi'r brydles. Ar gyfer prydlesi cymalau penodedig, gweler y modiwl sy'n trafod y pwnc hwnnw.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod pan fo angen cais penodol i gofrestru.