Cyfamodau cyfyngu o blaid y tenant - nid yw'r brydles yn brydles cymalau penodedig Cofiwch na ellir nodi cyfamodau cyfyngu mewn prydlesi sy'n effeithio ar deitl y landlord i'r eiddo a brydlesir yn unig.
Cofrestru prydles y tenant fel cofrestriad cyntaf - Os yw teitl y landlord yn ddigofrestredig, ni ellir cofrestru'r cyfamodau. Mae hyn oherwydd na ellir cofrestru pridiant tir Dosbarth D(ii) o blaid cyfamodau cyfyngu rhwng landlord a thenant (gweler Deddf Pridiannau Tir 1972 adran 2(5)).
- Os yw teitl y landlord yn gofrestredig, rhaid gwneud cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu UN1 neu rhaid ychwanegu manylion y cais at y ffurflen FR1 a gyflwynwyd gyda'r cais.
Cofrestru prydles y tenant fel gwarediad ystad gofrestredig - Yn yr achos hwn bydd y Gofrestrfa Tir yn nodi'r cyfamodau ar deitl y landlord y rhoddwyd y brydles ohono, heb gais ar wahân. Os yw'r cyfamodau yn effeithio ar deitl cofrestredig arall sy'n eddo i'r landlord cânt eu nodi ar y teitl hwnnw dim ond os yw'r rhif teitl yn cael ei ddyfynnu ar y ffuflen AP1 a gyflwynwyd gyda'r cais. Fel arall, bydd rhaid cyflwyno cais arall ar ffurflen AN1 neu UN1.
Mae prydles y tenant o dir cofrestredig ond nid oes modd cofrestru'r brydles - Os nad oes modd cofrestru prydles y tenant, bydd rhaid cyflwyno cais ar ffurflen AN1 neu UN1 yn erbyn teitl y landlord.
Mae'r dudalen nesaf yn trafod pan fo teitl y landlord yn cael ei gofrestru. |