www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Amrywio prydles Contents Previous Next

    Pwyntiau cyffredinol

    Gall gweithredoedd amrywio:

    • amrywio stent y tir yn y brydles
    • amrywio hyd y tymor
    • amrywio'r rhent (heblaw adolygiad o'r rhent)
    • amrywio darpariaethau eraill, er enghraifft cyfamodau mewn prydles

    Mae ffurf y cais a'r dystiolaeth sydd ei hangen yn amrywio yn amodol ar natur yr amrywiad.

    • Os yw'r brydles yn gofrestredig, bydd rhaid i'r cais gynnwys yr offeryn sy'n peri'r amrywiad a'r dystiolaeth i ddangos bod yr amrywiad yn weithredol yn ôl y gyfraith (rheol 78 RhCt 2003).
    • Os yw'r brydles wedi'i nodi ond nid yw'n gofrestredig, dylid cofrestru'r amrywiad trwy ddefnyddio ffurflen AP1.

    Yn y ddau achos os na chyflwynir copi o'r weithred, caiff y weithred wreiddiol ei chadw.

    Os yw'r weithred amrywio yn cyflwyno budd newydd i'r brydles sy'n faich ar ystad gofrestredig, fel opsiwn, dylid gwneud cais ar wahân i nodi'r budd trwy ddefnyddio naill ai ffurflen AN1 neu UN1 fel y bo'n briodol. Os yw'r budd newydd yn hawddfraint gyfreithiol a grëwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 o dir cofrestredig, mae'n rhaid ei gofrestru (adran 27 DCT 2002 )a dylid nodi unrhyw hawddfreintiau ecwitïol newydd trwy ddefnyddio ffurflen AN1 neu UN1 neu ei diogelu trwy bridiant tir Dosbarth D(iii) fel y bo'n briodol. Gweler y bennod 'Hawddfreintiau mewn prydlesi' am fwy o fanylion.

    Mae rhai gweithredoedd amrywio yn agored i dreth tir toll stamp. Ceir eglurhad ar y dudalen nesaf.