Amrywio tymor prydles - cynyddu'r tymor
Pan fo tymor prydles yn cael ei estyn trwy weithred amrywio, bydd y Gofrestrfa Tir yn trin yr amrywiad fel ildiad ac ail-roi prydles newydd. - Os yw'r brydles yn gofrestredig, rhaid cyflwyno cais ar ffurflen AP1 i gau'r teitl prydlesol sy'n bod. Dylid cyflwyno'r weithred wreiddiol a chopi. Os cyflwynir y weithred wreiddiol yn unig, caiff ei chadw.
- Os yw'r weithred yn creu prydles newydd y mae'n rhaid i honno gael ei chofrestru (gweler pryd i gofrestru) rhaid cyflwyno cais ar ffurflen FR1 neu AP1 i gofrestru'r brydles newydd.
- Os yw teitl y landlord yn gofrestredig bydd rhybudd o'r brydles a ildiwyd yn cael ei ddileu ar deitl y landlord gan y Gofrestrfa Tir heb gais ar wahân a bydd rhybudd o'r brydles newydd yn cael ei roi yn ei le.
- Os yw'r brydles wedi'i nodi yn erbyn teitl cofrestredig y landlord yn unig, a heb ei chofrestru ei hun, mae angen ffurflen CN1 yn unig i ddileu rhybudd o'r hen brydles. Unwaith eto mae'n bosib y bydd rhaid i'r brydles newydd gael ei chofrestru (gweler pryd i gofrestru). Gweler hefyd terfynu prydles.
Sylwch y gall ildiad ac ail-roi ddigwydd dim ond os yw unrhyw arwystlon sy'n effeithio ar y teitl prydlesol sy'n bod naill ai yn cael eu rhyddhau neu eu trosglwyddo i'r brydles newydd trwy weithred arwystl amnewidiol. Bydd rhaid tynnu yn ôl neu ryddhau pob llyffethair arall.
Os nad oes modd cyflenwi rhyddhad neu weithred, neu os nad oes modd tynnu llyffethair yn ôl neu ei ryddhau, ni ellir cau'r teitl prydlesol sy'n bod. Yn yr achos hwn bydd y brydles newydd yn cael ei chofrestru yn amodol ar y brydles sy'n bod.
Mae'r dudalen nesaf yn trafod amrywiadau sy'n lleihau tymor prydles. |