Amrywio'r stent - cynyddu'r stent
Oni bai fod camgymeriad wedi digwydd, ni ddylid defnyddio gweithred amrywio i ychwanegu tir arall at brydles. - Os cafodd y tir sy'n cael ei ychwanegu ei hepgor ar gam, ac mae'r weithred yn egluro hyn, byddai'r weithred yn cael ei thrin fel cywiriad o'r brydles.
Dylid cyflwyno cais i nodi'r cywiriad ar ffurflen AP1. Dylid cyflwyno'r weithred wreiddiol a chopi. Os cyflwynir y weithred wreiddiol yn unig, caiff ei chadw.
- Os mai effaith y weithred yw cynnwys tir ychwanegol nad oedd yn rhan o'r fargen wreiddiol, byddai'r weithred yn cael ei thrin fel ildiad ac ail-roi. Dylid cyflwyno cais i gau'r teitl i'r brydles wreiddiol ar ffurflen AP1 ynghyd â chais ar naill ai ffurflen AP1 neu FR1 fel y bo'n briodol i gofrestru'r brydles 'newydd'. Unwaith eto dylid cyflwyno'r weithred wreiddiol ynghyd â chopi. Os cyflwynir y weithred wreiddiol yn unig, caiff ei chadw.
Sylwch y gall ildiad ac ail-roi ddigwydd dim ond os yw unrhyw arwystlon sy'n effeithio ar y teitl prydlesol sy'n bodoli nail ai'n cael eu rhyddhau neu eu trosglwyddo i'r brydles newydd trwy weithred arwystl amnewidiol. Rhaid tynnu yn ôl neu ryddhau pob llyffethair arall. Os nad oes modd cyflenwi rhyddhad neu weithred, neu os na ellir tynnu'n ôl neu ryddhau llyffethair, ni ellir cau'r teitl prydlesol sy'n bod. Yn yr achos hwn bydd y brydles newydd yn cael ei chofrestru yn amodol ar y brydles sy'n bod.
Mae'r dudalen nesaf yn trafod amrywio sy'n lleihau stent y tir a brydleswyd. |