Amrywio darpariaethau cyffredinol prydles, hy cyfamodau Weithiau bydd gweithredoedd amrywio yn newid cyfamodau yn y brydles. Er enghraifft: "Bydd cymal 3 yr atodlen i'r brydles yn cael ei ddiwygio i'w ddarllen fel a ganlyn: Defnyddir llawr cyntaf yr eiddo a brydlesir fel swyddfeydd yn unig a defnyddir gweddill yr eiddo a brydlesir at ddiben unrhyw ddefnydd sy'n dod o fewn Dosbarth A1 y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref yn unig." Bydd y Gofrestrfa Tir yn trin hwn neu newid tebyg fel amrywiad o'r brydles. - Dylid cyflwyno cais ar ffurflen AP1 i nodi'r amrywiad. Dylid cyflwyno'r weithred wreiddiol a chopi. Os cyflwynir y weithred wreiddiol yn unig, caiff ei chadw.
Os yw teitl y landlord yn gofrestredig bydd yr amrywiad yn cael ei gofnodi ar y teitl hwnnw gan y Gofrestrfa Tir heb gais ar wahân.
Sylwch os yw'r weithred amrywio yn cyflwyno i'r brydles budd sy'n faich ar un o'r ystadau, fel opsiwn, bydd rhaid diogelu'r budd fel rhybudd a gytunwyd neu unochrog trwy ddefnyddio ffurflen AN1 neu UN1. Dyma ddiwedd y bennod ar amrywio prydles. |