Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Amrywio prydles Contents Previous Next

Treth Tir Toll Stamp (SDLT)

Os yw'r weithred amrywio yn ddyddiedig ar neu ar ôl 17 Mawrth 2004 mae angen tystiolaeth SDLT dim ond lle bo'r weithred yn:

  • weithredol fel ildio ac ail-roi'r brydles sy'n bodoli (gweler y diffiniad isod); neu
  • cynyddu'r rhent sy'n daladwy.

Os oes angen tystiolaeth SDLT, gall fod ar ffurf naill ai tystysgrif Dychweleb Trafodiad Tir neu hunan dystysgrif SDLT60 yn dibynnu ar delerau'r weithred


Ildio ac ail-roi

Cadarnhaodd y Llys Apêl yn Friends Provident Life Office v British Railways Board [1996] fod bwriad y partïon yn ffactor pwysig wrth benderfynu a oedd gweithred amrywio yn weithredol fel ildiad ac ail-roi trwy weithrediad y gyfraith, oni bai fod natur y newidiadau yn gorfodi'r llys i ddatgan bod y weithred yn weithredol fel prydles newydd.

Penderfynodd y llys os oedd y newidiadau yn effeithio ar yr ystad gyfreithiol a naill ai'n cynyddu stent yr eiddo a brydlesir neu dymor y brydles, yna byddai ildiad ac ail-roi yn digwydd.

Os mai bwriad syml y partïon yw cywiro camgymeriad yn y brydles wreiddiol, rhaid egluro hyn yn y weithred.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod ceisiadau penodol i amrywio prydles.