Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Amrywio prydles Contents Previous Next

Amrywio tymor prydles - lleihau'r tymor

Lle bo'r tymor yn cael ei leihau trwy weithred, bydd y Gofrestrfa Tir fel arfer yn trin y newid fel amrywiad o'r brydles sy'n bod. Bwriad y partïon yw'r ffactor pwysicaf a rhaid ei ddatgan.

  • Os yw'r brydles yn gofrestredig, dylid cyflwyno cais ar ffurflen AP1. Dylid cyflwyno'r weithred wreiddiol a chopi ynghyd â chaniatâd unrhyw arwystlai, cyfyngwr ac ati.

    Os yw'r weithred wreiddiol yn cael ei chyflwyno yn unig, caiff ei chadw. Os yw teitl y landlord yn gofrestredig, bydd yr amrywiad yn cael ei nodi ar y teitl hwnnw gan y Gofrestrfa Tir heb gais ar wahân.

  • Os yw'r brydles wedi'i nodi yn unig yn erbyn teitl y landlord, a heb ei chofrestru ei hun, dylid cyflwyno cais ar naill ai ffurflen AN1 neu UN1 a dylid cyflwyno'r weithred wreiddiol a chopi ar yr un pryd. Os cyflwynir y weithred wreiddiol yn unig caiff ei chadw.

Rhaid cyflwyno caniatâd unrhyw barti â budd (fel arwystlai), neu caiff nodyn ei ychwanegu at y gofrestr bod yr arwystlai heb roi caniatâd.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod amrywio'r rhent.