Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Amrywio prydles Contents Previous Next

Amrywio'r rhent (heblaw adolygiad o'r rhent)

Fel arfer mae'r rhan fwyaf o amrywiadau sy'n effeithio ar y rhent yn newid y fformiwla a ddefnyddir i gyfrif y rhent, neu'n newid y cyfnod ar gyfer adolygiadau rhent. Nid oes angen cofrestru adolygiad rhent ei hun.

Bydd y Gofrestrfa Tir yn trin newidiadau i'r ffordd o gyfrif y rhent neu pryd mae'n cael ei adolygu mewn amrywiad o ddarpariaethau yn y brydles. Fodd bynnag, bwriad y partïon yw'r ffactor pwysicaf bob amser.

Ffurf y cais

Os yw'r brydles yn gofrestredig dylid cyflwyno cais ar ffurflen AP1 i nodi'r amrywiad. Dylid cyflwyno'r weithred wreiddiol a chopi. Os cyflwynir y weithred wreiddiol yn unig, caiff ei chadw. Os yw teitl y landlord yn gofrestredig, bydd yr amrywiad yn cael ei gofnodi ar y teitl hwnnw gan y Gofrestrfa Tir heb gais ar wahân.

Bydd cynnwys cymalau yn y weithred fel "Ac eithrio fel y'i hamrywir gan y weithred hon, bydd y brydles yn parhau mewn grym ac effaith llawn" yn helpu cadarnhau bwriad y partïon sef bwriedir i'r amrywiad weithredu fel amrywiad yn hytrach nag ail-roi.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod amrywio darpariaethau prydles (fel cyfamodau).