Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Pryd i gofrestru Contents Previous Next

Aseiniadau neu drosgwlyddiadau o brydlesi digofrestredig - cofrestriad gorfodol

Bydd aseiniadau neu drosglwyddiadau o brydlesi digofrestredig a wnaed ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, lle roedd mwy na saith mlynedd o'r cyfnod ar ôl adeg gwneud y weithred, yn peri cofrestriad gorfodol os yw'r aseiniad neu drosglwyddiad:

  • am werth
  • trwy rodd
  • yn dilyn gorchymyn llys
  • trwy aseiniad - gan gynnwys aseiniad breinio.

Mae eithriadau i'r rheol hon yn cynnwys rhai trosglwyddiadau trwy weithrediad y gyfraith, aseiniadau tymor morgais a rhyddhad o brydles i'r perchennog rifersiynol i beri cyd-doddi. Ceir eglurhad manwl o'r eithriadau hyn yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 25 y Gofrestrfa Tir - Prydlesi: pryd i gofrestru.

Rhoi morgais cyfreithiol cyntaf dros ystad brydlesol ddigofrestredig

Bydd rhoi morgais cyfreithiol cyntaf dros ystad brydlesol ddigofrestredig sydd â mwy na saith mlynedd o'r tymor ar ôl, yn peri cofrestriad cyntaf gorfodol.  

Mae'r dudalen nesaf yn trafod cofrestriad gwirfoddol a phrydlesi na ellir eu cofrestru.