Cofrestriad gorfodol - prydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 Yn y bennod hon, ystyr 'prydles amharhaol' yw prydles lle nad yw hawl y tenant i feddiannu yn barhaol, er enghraifft fflat gwyliau cyfnodrannu sy'n cael ei ddefnyddio am ddwy wythnos benodol bob blwyddyn. 'Prydles rifersiynol' yw prydles sy'n rhoi hawl meddiannu i'r tenant yn y dyfodol yn hytrach nag ar unwaith.
Mae'n rhaid cofrestru'r prydlesi canlynol a roddwyd o dir digofrestredig: - prydlesi newydd a roddir am dymor o fwy na saith mlynedd naill ai am gydnabyddiaeth â gwerth, trwy rodd neu yn dilyn gorchymyn llys
- prydlesi amharhaol os yw'r cyfnod gosod cyfan yn fwy na saith mlynedd
- prydlesi rifersiynol sy'n dod yn weithredol mwy na thri mis ar ôl dyddiad y grant, a roddwyd
- o unrhyw ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig, neu
- o unrhyw ystad brydlesol ddigofrestredig os oes mwy na saith mlynedd o'r tymor ar ôl
- prydlesi a roddir dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985
Mae'n rhaid cofrestru'r prydlesi canlynol a roddwyd o dir cofrestredig: - prydlesi newydd a roddwyd am dymor o fwy na saith mlynedd
- prydlesi rifersiynol sy'n dod yn weithredol mwy na thri mis ar ôl dyddiad y grant
- prydlesi amharhaol heb ystyried hyd y tymor
- prydlesi a roddwyd dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985.
Mae'r dudalen nesaf yn trafod y sefyllfa lle bo'n orfodol cofrestru teitl y landlord. |