www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Pryd i gofrestru Contents Previous Next

    Cofrestriad gorfodol - prydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003

    Yn y bennod hon, ystyr 'prydles amharhaol' yw prydles lle nad yw hawl y tenant i feddiannu yn barhaol, er enghraifft fflat gwyliau cyfnodrannu sy'n cael ei ddefnyddio am ddwy wythnos benodol bob blwyddyn. 'Prydles rifersiynol' yw prydles sy'n rhoi hawl meddiannu i'r tenant yn y dyfodol yn hytrach nag ar unwaith.

    Mae'n rhaid cofrestru'r prydlesi canlynol a roddwyd o dir digofrestredig:

    • prydlesi newydd a roddir am dymor o fwy na saith mlynedd naill ai am gydnabyddiaeth â gwerth, trwy rodd neu yn dilyn gorchymyn llys
    • prydlesi amharhaol os yw'r cyfnod gosod cyfan yn fwy na saith mlynedd
    • prydlesi rifersiynol sy'n dod yn weithredol mwy na thri mis ar ôl dyddiad y grant, a roddwyd
      • o unrhyw ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig, neu
      • o unrhyw ystad brydlesol ddigofrestredig os oes mwy na saith mlynedd o'r tymor ar ôl
    • prydlesi a roddir dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985

    Mae'n rhaid cofrestru'r prydlesi canlynol a roddwyd o dir cofrestredig:

    • prydlesi newydd a roddwyd am dymor o fwy na saith mlynedd
    • prydlesi rifersiynol sy'n dod yn weithredol mwy na thri mis ar ôl dyddiad y grant
    • prydlesi amharhaol heb ystyried hyd y tymor
    • prydlesi a roddwyd dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985.

    Mae'r dudalen nesaf yn trafod y sefyllfa lle bo'n orfodol cofrestru teitl y landlord.