www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Pryd i gofrestru Contents Previous Next

    Prydlesi lle mae'n rhaid cofrestru teitl y landlord hefyd

    Os yw landlord sy'n gorfod ceisio am gofrestriad cyntaf ei ystad, yn rhoi prydles o'r ystad honno, ni all y tenant gofrestru'r brydles nes bod teitl y landlord wedi'i gofrestru.

    Enghraifft fyddai os yw unigolyn yn prynu ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig y mae'n rhaid ei chofrestru, ac ar unwaith mae'n rhoi prydles i denant cyn i'r rhydd-ddaliad gael ei gofrestru. Ni all y tenant gofrestru'r brydles nes bod teitl y landlord wedi cael ei gofrestru.

    Rheswm

    Ni all y tenant wneud cais i gofrestru'r brydles oherwydd nad yw'r brydles gyfreithiol wedi'i breinio yn y landlord nes bod ei deitl wedi'i gofrestru. O ganlyniad, ni ellir breinio unrhyw ystad yn y tenant. Ni all y tenant wneud cais i gofrestru teitl y landlord am nad yw'n olynydd mewn teitl i'r ystad rifersiynol.

    Ateb

    Yr ateb yw i'r tenant fynnu bod y landlord yn cofrestru ei deitl cyn i'r brydles cael ei chwblhau. Os nad yw'r landlord wedi cofrestru ei ystad o fewn dau fis o'i chaffael, gall y tenant wneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf ar ffurflen CT1, neu gall gofrestru pridiant tir dosbarth C(iv). Mae gwybodaeth bellach i'w gweld yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 1 y Gofrestrfa Tir - Cofrestriadau cyntaf.