Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Pryd i gofrestru Contents Previous Next

Cofrestriad gwirfoddol

Gellir cofrestru'r prydlesi canlynol fel cofrestriad gwirfoddol:

  • prydlesi digofrestredig a roddwyd cyn 13 Hydref 2003 sydd â mwy na saith mlynedd o'r tymor ar ôl ar adeg y cais
  • prydlesi amharhaol a roddwyd o ystad ddigofrestredig heb ystyried hyd y tymor hy nid oes rhaid i'r brydles fod am fwy na saith mlynedd (364 wythnos). (Sylwch fod rhaid cofrestru prydles amharhaol a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 am dymor o fwy na saith mlynedd.)

Prydlesi nad oes modd eu cofrestru

Nid oes modd cofrestru'r prydlesi canlynol:

  • prydlesi Partneriaeth Breifat-Gyhoeddus, beth bynnag fo hyd eu tymor
  • prydlesi am saith mlynedd neu lai, heblaw prydles amharhaol
  • prydlesi lle mae'r tymor yn dechrau mwy nag 21 mlynedd o ddyddiad y brydles ac mae rhent neu bremiwm yn daladwy (di-rym dan reol 149(3) DCE 1925)
  • prydlesi heb ddyddiad dechrau neu ddiwedd penodol (gweler Prudential Assurance Co. Ltd v London Residuary Body [1992])
  • prydlesi lle mai un person yw'r tenant a'r landlord (gweler Rye v Rye [1962]).

Mae'r cymorth desg yn cynnwys dau siart llif a ddyluniwyd i'ch helpu i benderfynu pryd i gofrestru prydles.

Dyma ddiwedd y bennod ar bryd i gofrestru prydles.