Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Prydlesi cymalau penodedig

Croeso i fodiwl e-ddysgu'r Gofrestrfa Tir ar brydlesi cymalau penodedig.

Mae'r modiwl wedi'i anelu at drawsgludwyr a chynghorwyr cyfreithiol eraill. Mae'n ceisio eich helpu cwblhau prydlesi sy'n defnyddio cymalau penodedig, ac mae'n ategu Cyfarwyddyd Ymarfer 64 y Gofrestrfa Tir.

Fersiwn diwygiedig o'r modiwl yw hwn, wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r ffaith ei bod yn orfodol, o 19 Mehefin 2006, i ddefnyddio'r cymalau ar gyfer y rhan fwyaf o brydlesi cofrestradwy a roddir ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o dir cofrestredig.

Mae'r modiwl wedi'i rannu’n nifer o benodau sydd wedi'u crynhoi isod.

  • Gofynion statudol: mae'n esbonio'r ddeddfwriaeth sy'n sail i gyflwyno cymalau penodedig
  • Gofynion cyffredinol: mae'n rhestru'r rheolau sylfaenol sy'n gymwys pan fydd y cymalau'n cael eu defnyddio.
  • Defnyddio'r cymalau: canllaw sy'n esbonio pryd y mae'n rhaid defnyddio'r cymalau a phryd i gyflwyno cais ar wahân ar ffurflen AP1, AN1 neu UN1 i nodi buddion arbennig sydd wedi'u cynnwys yn y brydles.
  • Cyfarwyddyd cyfeirio cyflym: trosolwg o'r hyn y mae pob cymal yn cyfeirio ato ac y dylai ei gynnwys.
  • Newidiadau i'r gofrestr: mae'n esbonio nifer o newidiadau i fformat y gofrestr teitl.
  • Eithriadau: mae'n rhestru'r nifer fach o brydlesi sydd heb eu heffeithio gan y darpariaethau cymalau penodedig.
  • Cofrestriadau cyntaf: mae'n esbonio sut y gellir defnyddio'r cymalau mewn prydles o dir digofrestredig.
  • Cwblhau'r cymalau: mae'n dangos yn fanwl sut i gwblhau pob cymal penodedig.
  • Cyfyngiadau safonol: mae'n dangos geiriad pob cyfyngiad safonol.
  • Crynodeb: crynodeb o'r prif bwyntiau a drafodir yn y modiwl.

Gallwch symud trwy bob adran fesul tudalen trwy glicio ar y botwm 'nesaf' neu 'flaenorol' yng nghornel uchaf y dudalen ar y dde. Neu gallwch fynd yn syth i'r adran neu is-adran sydd o ddiddordeb i chi trwy glicio ar y botwm 'cynnwys'.