Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Newidiadau a hepgoriadau Contents Previous Next

Newidiadau a hepgoriadau

Cefndir

Mae'r bennod hon yn esbonio sut i ddatrys problemau sy'n codi o wybodaeth anghyflawn neu anghywir mewn prydlesi cymalau penodedig.

Mae'r ffordd o ddatrys gwallau neu hepgoriadau yn y cymalau yn dibynnu a ydynt yn dod i'r amlwg cyn, yn ystod neu ar ôl cofrestru'r brydles ac a fydd y cywiriad yn golygu bod cofnod newydd yn cael ei wneud ar y gofrestr.

Gan fod y gofrestr yn cael ei chreu trwy ddefnyddio'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cymalau penodedig, ymdrinnir â gwybodaeth anghyflawn mewn un o dair ffordd.

  • Os oes angen y wybodaeth i greu elfennau sylfaenol y gofrestr, (ee. cymal LR3 - partïon i'r brydles), bydd y cais yn cael ei wrthod.
  • Os yw'r wybodaeth sydd yn eisiau yn ymwneud â budd sydd i'w gofrestru (ee. cymalau LR9, LR10, LR11, LR12, LR13) ni fydd y Gofrestrfa Tir yn gweithredu oni bai fod cais ar wahân yn cael ei gyflwyno hefyd.
  • Yn achos cymal LR4, os yw'r disgrifiad yn y cymal yn groes i'r disgrifiad mewn man arall yn y brydles, bydd geiriad y cymal yn cael ei ddefnyddio i bennu stent cofrestredig y tir.

Mae'r cyngor a roddir mewn man arall yn y modiwl hwn i ychwanegu'r gair 'dim' at gymal os nad yw'n berthnasol yn bwriadu atal cymalau rhag cael eu gadael yn wag ar gam. Trwy ddefnyddio'r dull hwn, dylai fod modd adnabod unrhyw broblem trwy edrych yn gyflym ar y cymalau cyn anfon y brydles i'w chofrestru.

Ni all y bennod hon ymdrin â phob sefyllfa bosib o ran newidiadau a hepgoriadau, felly mae cyfarwyddyd manwl ar gael i'w argraffu yn ôl y gofyn ar gael.

Mae'r tudalennau nesaf yn edrych ar y sefyllfaoedd sy'n fwyaf tebygol o godi.