Newidiadau Mae newidiad yn briodol os yw testun cymal heb ei gwblhau'n gywir. Ni all methu â chwblhau cymal gael ei drin fel newidiad; mae'n hepgoriad. Ymdrinnir â'r rhain ar y dudalen nesaf.
Mae modd gwneud mân newidiadau clercio dan Reol 130, Rheolau Cofrestru Tir 2003 (RhCT 2003).
Rheol 130 RhCT 2003 Nid oes rhaid i'r Gofrestrfa Tir wneud newidiadau dan reol 130. Mae ymarfer y pŵer hwn yn ddewisol. Penderfynwyd na all rheol 130 byth gael ei ddefnyddio ar gyfer newidiad sy'n golygu bod cofnod newydd yn cael ei roi mewn unrhyw gofrestr. Gellir ei ddefnyddio i gywiro camgymeriadau clercio yn unig. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys: - anghysondeb rhwng testun mewn cymal ac yng nghorff y brydles
- sillafu neu drefn enwau, neu ychwanegu enw arall (ee. enw 'canol')
- dyddiadau, megis dyddiad y brydles
- y premiwm a dalwyd.
Mae hyn yn golygu mai dim ond cymalau LR1, LR3, LR6 a LR7 sy'n gallu cael eu newid dan y Rheol. Rhaid cyflwyno tystiolaeth i ategu'r newid.
Gwneud cais Os ydych yn gwneud cais pan fyddwch yn cyflwyno'r brydles i'w chofrestru, anfonwch lythyr yn esbonio pa newidiad sydd ei angen a chyflwynwch unrhyw dystiolaeth ategol. Os yw'r gwall yn dod i'r amlwg ar ôl i'r brydles gael ei chyflwyno i'w chofrestru, neu ar ôl iddi gael ei chofrestru, mae angen ffurflen AP1. Yn achos cais i newid cymal LR6 neu LR7 yn ystod cofrestriad y brydles, fel rheol caiff y brydles ei dychwelyd atoch i wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae'r dudalen nesaf yn edrych yn fanwl ar hepgoriadau. |