Hepgor datganiad statudol - cymal LR5 Mae'r hyn y mae angen i chi ei wneud gyda'r cymal hwn yn dibynnu a yw'r datganiad wed'i hepgor o'r cymal yn unig, neu ydy'r datganiad heb ei gynnwys yng nghorff y brydles hefyd.
Cymal LR5.1 Os nad yw'r datganiad gofynnol wedi'i nodi unrhyw le yn y brydles, mae cais yn defnyddio'r ffurflen briodol yn ofynnol. Enghraifft gyffredin fyddai gwarediad o blaid elusen sydd heb ei hesgusodi lle y dylai cyfyngiad gael ei gofnodi. Defnyddiwch ffurflen RX1 a chyflwynwch y ffi briodol (£40). Ni ddylid defnyddio gweithred gywiro. Os cafodd y datganiad ei hepgor o'r cymal, ond mae wedi'i gynnwys mewn man arall yng nghorff y brydles, gwnewch gais ysgrifenedig gan esbonio pa ddatganiad ddylai fod wedi'i gynnwys yn y cymal. Bydd staff y Gofrestrfa Tir yn cywiro'r gofrestr yn unol â hynny. Nid oes angen talu unrhyw ffi.
Cymal LR5.2 Os nad oedd y Ddeddf berthnasol wedi'i nodi yn y cymal, ac ni sonnir amdani mewn man arall yng nghorff y brydles, nid oes modd cywiro'r hepgoriad dan reol 130 RhCT 2003. Bydd angen gweithred gywiro, ynghyd â ffurflen AP1 a ffi (£40). Os yw'r Ddeddf berthnasol wedi'i chrybwyll mewn man arall yng nghorff y brydles, gwnewch gais drwy lythyr. Bydd staff y Gofrestrfa Tir yn cywiro’r gofrestr yn unol â hynny. Nid oes angen talu unrhyw ffi. Mae'r dudalen nesaf yn esbonio pryd i ddefnyddio gweithred amrywio neu gywiro. |