www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Cymalau Penodedig Newidiadau a hepgoriadau Contents Previous Next

    Cymal LR5

    Hepgor datganiad statudol - cymal LR5

    Mae'r hyn y mae angen i chi ei wneud gyda'r cymal hwn yn dibynnu a yw'r datganiad wed'i hepgor o'r cymal yn unig, neu ydy'r datganiad heb ei gynnwys yng nghorff y brydles hefyd.

    Cymal LR5.1

    Os nad yw'r datganiad gofynnol wedi'i nodi unrhyw le yn y brydles, mae cais yn defnyddio'r ffurflen briodol yn ofynnol. Enghraifft gyffredin fyddai gwarediad o blaid elusen sydd heb ei hesgusodi lle y dylai cyfyngiad gael ei gofnodi. Defnyddiwch ffurflen RX1 a chyflwynwch y ffi briodol (£40). Ni ddylid defnyddio gweithred gywiro.

    Os cafodd y datganiad ei hepgor o'r cymal, ond mae wedi'i gynnwys mewn man arall yng nghorff y brydles, gwnewch gais ysgrifenedig gan esbonio pa ddatganiad ddylai fod wedi'i gynnwys yn y cymal. Bydd staff y Gofrestrfa Tir yn cywiro'r gofrestr yn unol â hynny. Nid oes angen talu unrhyw ffi.

    Cymal LR5.2

    Os nad oedd y Ddeddf berthnasol wedi'i nodi yn y cymal, ac ni sonnir amdani mewn man arall yng nghorff y brydles, nid oes modd cywiro'r hepgoriad dan reol 130 RhCT 2003. Bydd angen gweithred gywiro, ynghyd â ffurflen AP1 a ffi (£40).

    Os yw'r Ddeddf berthnasol wedi'i chrybwyll mewn man arall yng nghorff y brydles, gwnewch gais drwy lythyr. Bydd staff y Gofrestrfa Tir yn cywiro’r gofrestr yn unol â hynny. Nid oes angen talu unrhyw ffi.

    Mae'r dudalen nesaf yn esbonio pryd i ddefnyddio gweithred amrywio neu gywiro.