Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Newidiadau a hepgoriadau Contents Previous Next

Hepgoriadau

Hepgoriadau

Mae hegporiadau'n digwydd pan fydd cymal heb ei gwblhau o gwbl, a phan fyddai ychwanegu'r wybodaeth at y cymal yn golygu bod cofnod newydd yn cael ei roi mewn unrhyw gofrestr.

Gallwch wneud cais i'r brydles gael ei chywiro naill ai pan gaiff ei chyflwyno i'w chofrestru, tra ei bod yn cael ei chofrestru, neu ar ôl cwblhau cofrestru.

Cais ychwanegol yn ofynnol

Mae angen i geisiadau i gywiro hepgoriadau, sy'n cael eu gwneud pan fydd y brydles yn cael ei chyflwyno i'w chofrestru, fod yn ysgrifenedig yn unig. Fodd bynnag, ac eithrio yn achos cymal LR5, os yw'r hepgoriad yn dod i'r amlwg ar ôl cwblhau cofrestru, rhaid cyflwyno cais ar y ffurflen briodol gyda'r ffi gywir. (Esbonnir y sefyllfa ynghylch cymal LR5 ar y dudalen nesaf.)

Enghraifft gyffredin sy'n dangos pryd mae ffurflen a ffi yn ofynnol yw pan fydd cyfyngiad safonol heb ei gofrestru oherwydd bod cymal LR13 heb ei gwblhau'n gywir, neu heb ei gwblhau o gwbl. Yn yr achos hwn mae ffurflen RX1 yn ofynnol ynghyd â ffi o £40. Mae'r un rheolau yn gymwys i rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog (gan ddefnyddio ffurflenni AN1 neu UN1 fel bo'n briodol) mewn perthynas â buddion yng nghymalau LR8, LR9, LR10, LR11 a LR12.

Yn achos cymalau LR8 a LR11.1, mae'n rhaid i'r cais gael ei gyflwyno ar Ffurflen AP1 ac mae'n rhaid i chi ddyfynnu'r rhifau teitl perthnasol ar y ffurflen gais, a'r cymal neu'r atodlen yng nghorff y brydles lle y gellir cael hyd i'r wybodaeth.

Gyda chymal LR14, os nad oedd wedi'i gwblhau'n gywir, ac mae'r brydles o blaid dau berchennog neu fwy, bydd cyfyngiad Ffurf A (cyd-berchennog) wedi'i gofnodi trwy ddiffyg. Os nad yw hyn yn ofynnol, gallwch wneud cais i'w ddileu. Mae tystysgrif gan Drawsgludwr yn tystio bod y perchnogion yn dal y tir fel cyd-denantiaid llesiannol yn ofynnol, wedi'i chyflwyno gyda ffurflen AP1.  Nid yw ffi yn daladwy.

Mae'r dudalen nesaf yn delio â hepgor datganiad statudol (cymal LR5).