Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Newidiadau a hepgoriadau Contents Previous Next

Gweithred amrywio

Gweithred amrywio a chywiro

Ni ddylid defnyddio gweithredoedd amrywio neu gywiro pan fydd cyfeiriad at gymal neu atodlen wedi'i hepgor o gymal penodedig yn unig, neu os yw rhif teitl y tir dan sylw heb ei nodi yng nghymal LR2.2 sy'n golygu bod y Gofrestrfa Tir heb wneud cofnod mewn cofrestr. Yn yr achosion hyn dylid gwneud cais trwy ddefnyddio'r ffurflen briodol (AN1/UN ac ati) i nodi neu gofrestru'r budd. Mae ffi yn daladwy.

Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng amrywiad a chywiriad mewn rhai achosion ac mae pob achos yn cael ei drin yn unigol yn ôl y geiriad. Fel rheol gyffredinol, mae amrywiadau yn newid telerau'r brydles o'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol gan y partïon; mae cywiriad yn cywiro camgymeriadau er mwyn i wir fwriad y partïon gael ei adlewyrchu yn y brydles. (Mae mwy o wybodaeth ynghylch sut mae'r Gofrestrfa Tir yn trin gweithredoedd amrywio i'w gweld yn y modiwl Cofrestru prydlesi a buddion prydlesol - gweithredoedd amrywio sydd ar gael o'r cyswllt 'Prydlesi-cyffredinol' gyferbyn.)

Nid oes rhaid i weithred amrywio fod mewn fformat cymal penodedig, hyd yn oed os oedd y brydles wreiddiol yn brydles cymalau penodedig (rheol 58A(4)(d) RhCT 2003).

Nid oes rhaid i weithredoedd cywiro gynnwys y cymalau chwaith, ond bydd gosod y cymal a newidiwyd neu a adolygwyd mewn fformat tebyg i'r brydles yn gwneud y wybodaeth newydd yn gliriach bob amser.

Os ydych yn ansicr o hyd a oes angen gweithred gywiro neu beidio, cysylltwch â'ch swyddfa Cofrestrfa Tir leol.

Dyma ddiwedd y bennod ar newidiadau a hepgoriadau.