www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Cymalau Penodedig Cwblhau'r cymalau Contents Previous Next

    Cymal LR10

     

    LR10: Cyfamodau cyfyngu a roddwyd yn y brydles hon gan y Landlord mewn perthynas â thir heblaw'r Eiddo



    Sylwch y dylid defnyddio'r cymal hwn ar gyfer cyfamodau cyfyngu yn unig sy'n rhwymo tir ym meddiant y landlord heblaw'r budd rifersiynol yn yr eiddo a brydleswyd gan y brydles. Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer cyfamodau cadarnhaol o unrhyw fath.

    Enghraifft gyffredin sy'n dangos pryd y dylid cwblhau'r cymal hwn yw pan fydd y landlord yn prydlesu uned mewn parc adwerthu at ddiben penodol (gorsaf betrol ac ati) ac mae'n cyfamodi â'r tenant i beidio â gosod uned arall i'r un diben. Ni ddylid cwblhau'r cymal yn achos rhoi prydles o'r cyfan pan fydd y landlord yn cyfamodi i beidio â gwneud rhywbeth ar y teitl rhydd-ddaliol.

    Cwblhewch y cymal trwy roi'r darpariaethau perthnasol neu cyfeiriwch at y cymal/atodlen/paragraff yng nghorff y brydles sy'n cynnwys y cyfamodau. Cofiwch nodi rhif teitl y tir sy'n dwyn baich yng nghymal LR2.2, oni bai ei fod yr un teitl â'r hyn a nodir yng nghymal LR2.1.

    Os ydych yn gadael y cymal hwn (LR10) yn wag, neu nid ydych yn ychwanegu'r rhif teitl perthnasol at gymal LR2.2 lle mae'n ofynnol, nid oes rhaid i'r Gofrestrfa Tir wneud unrhyw gofnod o'r cyfamodau yn y gofrestr.

    Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR11.