Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Cwblhau'r cymalau Contents Previous Next

Cymal LR12

 

LR12: Rhent-dâl ystad sy'n faich ar yr Eiddo



Mae'r term 'Rhent-dâl ystad' yma yn golygu rhent-dâl fel y'i diffinnir yn adran 1(2)(b) Deddf Cyfraith Eiddo 1925. Nid yw'n golygu'r rhent blynyddol sy'n daladwy ar gyfer prydlesu'r eiddo.

Mae'r cymal hwn yn cyfeirio at gofnod o faich rhent-dâl yn erbyn yr eiddo yn unig. Rhaid cyflwyno ceisiadau ar wahân i gofrestru teitl i rent-dâl ystad a rhybudd o unrhyw rent-dâl sy'n effeithio ar dir arall.

Peidiwch ag ailadrodd manylion y rhent-dâl yn y cymal hwn, ond cyfeiriwch at y cymal/atodlen/rhif paragraff yng nghorff y brydles sy'n cynnwys manylion y rhent-dâl.

Sylwch os yw'r cymal hwn yn cael ei adael yn wag ac nid yw cais ar wahân ar ffurflen AP1, AN1 neu UN1 yn cael ei gyflwyno, nid oes rhaid i'r Gofrestrfa Tir wneud cofnod o'r rhent-dâl.

Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR13.