LR13: Cais am ffurf safonol ar gyfyngiad | Mae'r partïon i'r brydles hon yn gwneud cais i gofnodi'r ffurf safonol ganlynol ar gyfyngiad [yn erbyn teitl yr Eiddo] neu [yn erbyn rhif teitl] |
Defnyddiwch y cymal hwn i wneud cais am gyfyngiadau safonol fel y nodir yn Atodlen 4 Rheolau Cofrestru Tir 2003, yn lle defnyddio ffurflen RX1. Bydd unrhyw gyfyngiadau sy'n ofynnol trwy statud yn cael eu cofnodi'n awtomatig gan y Gofrestrfa Tir gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yng nghymal LR5; nid oes rhaid cyflwyno cais amdanynt yma. Defnyddiwch y cymal hwn ac nid cymal LR14 i wneud cais am gyfyngiad Ffurf A os yw'r tenant yn unig berchennog a hefyd yn ymddiriedolwr, er enghraifft ymddiriedolwr noeth.
Nodwch destun llawn pob cyfyngiad, gan gynnwys y rhif(au) teitl neu ddisgrifiad arall o'r tir y mae'r cyfyngiad i'w gofnodi yn ei erbyn. Rhaid cynnwys y geiriad "Mae'r partïon i'r brydles hon.....cyfyngiad" bob amser; dilëwch yr opsiwn mewn cromfachau sydd heb fod yn gymwys. Os yw'r cyfyngiad i'w gofrestru yn erbyn teitl heblaw'r eiddo neu deitl y landlord a ddangosir yng nghymal LR2.1, nodwch y rhif teitl hwnnw yng nghymal LR2.2, fel arall ni fydd y Gofrestrfa Tir yn cofnodi'r cyfyngiad.
Os yw'r cyfyngiad yn effeithio ar ran o'r tir sy'n cael ei gofrestru yn unig, bydd rhaid rhoi disgrifiad addas trwy gyfrwng cynllun neu fel arall er mwyn adnabod union stent y tir dan sylw; er enghraifft:
Mae'r partïon i'r brydles hon yn gwneud cais i gofnodi'r ffurf safonol ganlynol ar gyfyngiad yn erbyn teitl yr Eiddo wedi'i ymylu'n las ar y cynllun prydles: Ni ellir cofrestru unrhyw warediad o'r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig heb gydsyniad ysgrifenedig wedi'i arwyddo gan Andrea Pochelli o 4C Pocklar Road, London N5 6RE neu ei thrawsgludwr.
Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR14. |