Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Cwblhau'r cymalau Contents Previous Next

Cymal LR14

 

LR14: Datganiad ymddiried os yw'r tenant yn fwy nag un person

Mae'r Tenant yn fwy nag un person. Byddant yn dal yr Eiddo ar ymddiried ar eu cyfer eu hunain fel cyd-denantiaid neu

Mae'r Tenant yn fwy nag un person. Byddant yn dal yr Eiddo ar ymddiried ar eu cyfer eu hunain fel tenantiaid cydradd â chyfrannau cyfartal neu

Mae'r Tenant yn fwy nag un person. Byddant yn dal yr Eiddo ar ymddiried fel...



Cwblhewch y cymal hwn trwy ddileu'r opsiwn sydd heb fod yn berthnasol. Os oes un tenant yn unig, dilëwch bob un o'r datganiadau. Os yw'r tenant yn unig berchennog sydd hefyd yn ymddiriedolwr, defnyddiwch banel LR13 i wneud cais am y cyfyngiad safonol priodol.

Os ydych wedi dewis opsiwn dau, bydd y Gofrestrfa Tir yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn y Gofrestr Perchnogaeth; os yw opsiwn tri wedi'i gwblhau gellir cofnodi cyfyngiad priodol arall.

Os yw'r cymal heb gael ei gwblhau, ac mae dau denant neu fwy, bydd y Gofrestrfa Tir yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A 'trwy ddiffyg'.  Anfonir llythyr yn hysbysu'r ceisydd bod hyn wedi cael ei wneud gyda'r cofrestriad wedi'i gwblhau.

Dyma ddiwedd y bennod ar gwblhau'r cymalau.