LR2: Rhif(au) teitl: | LR2.1 Rhif(au) teitl y landlord
LR2.2 Rhif(au) teitl arall(eraill) |
LR2.1: Os yw teitl y landlord wedi'i gofrestru, nodwch y rhif(au) teitl yn y cymal hwn. Fel arall gadewch y cymal yn wag. Os yw teitl y landlord yn gais sy'n aros i'w brosesu, neu'n deitl y mae'n orfodol ei gofrestru, bydd angen i chi wybod pa rif teitl sydd wedi cael ei roi ar gyfer y cais a'i ychwanegu at y cymal.
LR2.2: Defnyddiwch y cymal hwn i restru unrhyw rif(au) teitl, heblaw teitl y landlord neu'r tir a brydleswyd, y mae'n ofynnol i gofnodion mewn perthynas â buddion y cyfeirir atynt yng nghymalau LR9,10,11 ac 13 gael eu gwneud yn ei erbyn (eu herbyn).
Sylwch yn absenoldeb cais ar wahân, os yw cymal LR2.2 wedi cael ei adael yn wag, ond mae cymalau LR9, 10, 11 ac 13 wedi cael eu cwblhau, yna dan reol 72A (4) RhCT 2003 nid oes rhaid i'r Gofrestrfa Tir wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr teitl. Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR3 |