Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Cwblhau'r cymalau Contents Previous Next

Cymal LR3

 

LR3: Partïon i'r brydles

Landlord

Tenant

Partïon eraill



Rhowch enwau a chyfeiriadau llawn (gan gynnwys codau post) y landlord a'r tenant, a lle'n briodol unrhyw bartïon eraill i'r brydles. Peidiwch â newid y penawdau 'Landlord' neu 'Tenant', hyd yn oed os yw teitl gwahanol yn cael ei ddefnyddio yng nghorff y brydles.

Os yw unrhyw barti yn gwmni, dylech gynnwys rhif cofrestru'r cwmni.

  • Ar gyfer cwmnïau yn yr Alban defnyddiwch ragddodiad SC - hy. James & Co (SC124325).
  • Ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig defnyddiwch ragddodiad OC - hy. Johnson & James LLP (OC124325).
  • Ar gyfer cwmnïau tramor rhowch y diriogaeth lle cafodd y cwmni ei gorffori - hy. (wedi'i gorffori yn Japan).

Ar gyfer 'partïon eraill' nodwch eu swyddogaeth, er enghraifft "cwmni rheoli", "gwarantwr" ac ati. Os nad oes unrhyw 'bartïon eraill', gallwch adael allan neu ddileu'r pennawd.

Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR4.