LR4: Eiddo | Yn achos gwrthdaro rhwng y cymal hwn a gweddill y brydles hon, at ddibenion cofrestru, y cymal hwn fydd drechaf. |
Rhowch ddisgrifiad llawn o'r eiddo yma neu cyfeiriwch at y cymal/atodlen/paragraff yn y brydles sy'n disgrifio'r Eiddo yn llawn; nid y ddau.
Peidiwch â dileu'r datganiad gwrthdaro yn y cymal hwn. Yn lle hynny rhowch y disgrifiad llawn o'r eiddo o dan y datganiad neu cyfeiriwch at y cymal/atodlen/paragraff yn y brydles sy'n disgrifio'r Eiddo yn llawn - hy. '4C Pocklar Road, London N5 6RE' neu 'gweler paragraff 10 Atodlen 1'. Defnyddiwch gyfeiriad post llawn os yw ar gael.
Os yw'r brydles yn eithrio yn benodol unrhyw fwyngloddiau a mwynau, pren a choed, ffyrdd neu nodweddion ffisegol eraill, dylech gynnwys manylion yr eithriad yn y cymal hwn neu cyfeiriwch at y cymal/atodlen/paragraff yn y brydles sy'n cynnwys y wybodaeth briodol.
Os yw'r brydles yn ymwneud â rhan o deitl cofrestredig, rhaid atodi cynllun i'r brydles, a rhaid nodi lefelau unrhyw loriau. Os oes gwrthdaro rhwng y disgrifiad llafar o'r tir ac unrhyw gynllun y cyfeirir ato yn y cymal hwn, ymchwilir i'r mater a bydd y Gofrestrfa Tir yn gwneud ymholiad.
Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR5. |