Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Cwblhau'r cymalau Contents Previous Next

Cymal LR5



LR5: Datganiad sy'n ofynnol yn ôl statud



LR5.1 Datganiadau penodedig dan reolau 179 (gwarediadau o blaid elusen), 180 (gwarediadau gan elusen) neu 196 (prydlesi dan Ddeddf Diwygio Prydlesoedd, Tai a Datblygiad Trefol 1993) Rheolau Cofrestru Tir 2003.

LR5.2 Gwneir y brydles hon dan, neu wrth gyfeirio at, ddarpariaethau:

Deddf Diwygio Prydlesoedd 1967
Deddf Tai 1985
Deddf Tai 1988
Deddf Tai 1996



LR5.1 - Os oes gofyniad statudol i roi datganiad yn y brydles, nodwch y datganiad hwnnw yma neu cyfeiriwch at y cymal/atodlen/paragraff yn y brydles sy'n cynnwys y datganiad. Enghraifft gyffredin fyddai pan fydd y brydles gan neu o blaid elusen.

LR5.2 - Os yw prydles yn cael ei gwneud yn unol ag un o'r Deddfau a bennir yn y cymal hwn, er enghraifft 'hawl i brynu' wedi'i roi dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985, dylech gynnwys y Ddeddf briodol a gadael allan neu ddileu'r rheiny sydd heb fod yn berthnasol. Os nad yw unrhyw un o'r Deddfau yn berthnasol, dilëwch y rhestr.

Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR6.