LR6: Cyfnod prydlesu'r eiddo | Oddi ar ac yn cynnwys Tan ac yn cynnwys neu Y cyfnod a nodir yn y brydles hon yng nghymal/atodlen/paragraff neu Mae'r cyfnod fel a ganlyn |
Mae'n bwysig nodi y bydd y wybodaeth a ddarperir yn y cymal hwn yn cael ei defnyddio yn y gofrestr teitl fel rhan o'r manylion i adnabod y brydles fel sy'n ofynnol gan reol 6(1) Rheolau Cofrestru Tir 2003.
Rhaid i chi ddewis un o'r tri opsiwn; peidiwch â gadael y cymal yn wag. Cofiwch ddefnyddio'r dyddiadau yn y fformat llawn: ee. 9 Ionawr 2006. Bydd y Gofrestrfa Tir yn gwrthod y cais os nad yw'r cymal hwn wedi'i gwblhau.
Os nad yw cyfnod y brydles yn syml, megis prydles am oes, prydles gydredol, prydles amharhaol neu brydles rifersiwn, cyfeiriwch at y cymal/atodlen/paragraff priodol yn y brydles sy'n cynnwys y cyfnod perthnasol.
Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR7. |