Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Cwblhau'r cymalau Contents Previous Next

Cymal LR7

 

LR7: Premiwm

Cwblhewch y cymal hwn gyda manylion cyfanswm y premiwm a dalwyd gan gynnwys TAW lle'n briodol. Peidiwch â chyfeirio at gymal yn y brydles. Os nad yw'r brydles yn cymryd unrhyw bremiwm, rhowch 'dim'.

Gallwch roi'r wybodaeth mewn un o ddwy ffordd; er enghraifft

  • £100,000 ynghyd â TAW o £17,500 neu
  • £117,500 yn cynnwys TAW.

Peidiwch â chyfeirio at TAW yn gyffredinol: hy.£100,000 ynghyd â TAW.

Os nad oes unrhyw dystiolaeth yn y brydles neu'r papurau eraill a gyflwynwyd bod TAW yn daladwy, bydd y Gofrestrfa Tir yn cymryd yn ganiataol bod y gydnabyddiaeth neu'r premiwm a'r rhent a ddyfynnwyd mewn gweithred yn cynnwys unrhyw elfen TAW sy'n daladwy.

Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR8.