Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Prydlesi Cymalau Penodedig Cwblhau'r cymalau Contents Previous Next

Cymal LR8

 

LR8: Gwaharddiadau neu gyfyngiadau yn erbyn gwaredu'r brydles hon

Nid yw'r brydles hon yn cynnwys darpariaeth sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar warediadau

neu


Mae'r brydles hon yn cynnwys darpariaeth sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar warediadau.



Defnyddir y cymal hwn i roi manylion am y brydles ac a yw'n cynnwys unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau ar waredu gan y tenant. Peidiwch â nodi'r gwaharddiad yn llawn neu gyfeirio at y cymal perthnasol yn y brydles sy'n cynnwys y gwaharddiad. Yn lle hynny dilëwch y datganiad yn y cymal sydd heb fod yn berthnasol.

Bydd y Gofrestrfa Tir yn gwneud cofnod ar y gofrestr teitl os yw'r cymal hwn yn dangos bod y brydles yn cynnwys gwaharddiad neu gyfyngiad ar waredu.

Os nad ydych yn cwblhau'r cymal hwn yn gywir, er enghraifft os yw'r ddau opsiwn yn y cymal wedi cael eu dileu neu nid yw un ohonynt wedi cael ei ddileu, ni fydd y Gofrestrfa Tir yn gwneud unrhyw gofnod ar y gofrestr o'r cyfyngiad ar waredu oni bai fod cais ar wahân ar ffurflen AP1 wedi cael ei gyflwyno.

Os defnyddir AP1, nodwch ar y ffurflen y cymal/atodlen/paragraff yn y brydles sy'n cynnwys y gwaharddiad.

Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gymal LR9.