Nid oes rhaid i bob prydles a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 fod ar ffurf prydles cymalau penodedig. Dan ddarpariaethau rheol 58A(4)(c) RhCT 2003 nid oes rhaid i brydles gynnwys y cymalau penodedig pan gaiff ei rhoi mewn ffurf sy'n ofynnol yn benodol gan y canlynol: - cytundeb a wnaed cyn 19 Mehefin 2006
- gorchymyn y llys
- deddfiad
- cydsyniad gofynnol neu drwydded i roi'r brydles a roddwyd cyn 19 Mehefin 2006.
Dan reol 58A(4)(d) RhCT 2003 nid oes rhaid i brydles a grëwyd gan weithred amrywio sy'n dod i rym fel ildiad ac ailroi gynnwys y cymalau penodedig. Gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 64 a'i atodiad i gael rhagor o fanylion
Hawlio eithriad Os hawlir un o'r eithriadau yn rheol 58A, rhaid cynnwys tystysgrif gan drawsgludwr gyda'r cais sy'n cadarnhau'r sefyllfa.
Eithriadau eraill Y prydlesi eraill nad oes rhaid iddynt gynnwys y cymalau yw prydlesi rhyddfreintiau, maenorau neu broffidiau, prydlesi nad oes modd eu cofrestru neu brydlesi a roddwyd cyn 19 Mehefin 2006.
Hefyd, nid oes rhaid i brydlesi a roddwyd o ystadau digofrestredig gynnwys y cymalau, ond gellir eu defnyddio yn wirfoddol. Am fwy o wybodaeth gweler y bennod 'Cofrestriadau cyntaf'.
Dyma ddiwedd y bennod ar eithriadau. |