www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Cymalau Penodedig Cofrestriadau cyntaf Contents Previous Next

    Cofrestriadau cyntaf

    Mae cais am gofrestriad cyntaf yn codi pan fydd prydles sy'n ddarostyngedig i gofrestriad gorfodol wedi cael ei rhoi o ystad ddigofrestredig. Nid yw defnyddio'r cymalau penodedig yn orfodol ar gyfer y math hwn o brydles.

    Sylwch nad yw prydles tir a roddwyd o ystad ddigofrestredig landlord sy'n ddarostyngedig i gofrestriad gorfodol ei hun yn gofrestriad cyntaf. Rhaid i deitl y landlord gael ei gofrestru yn gyntaf (rheol 38 RhCT 2003) a chofrestru'r brydles wedi hynny fel gwarediad cofrestradwy. Mae angen ffurflen AP1 yn lle ffurflen FR1.


    Os yw'r cais yn gofrestriad cyntaf, bydd y cymalau yn cael eu defnyddio i ddangos cynnwys y brydles, a bydd unrhyw fudd sydd wedi'i gynnwys yn y brydles, megis opsiwn, yn cael ei nodi mewn teitl cofrestredig arall dim ond os yw cais ar wahân ar ffurflen AP1, AN1 neu UN1 (fel y bo'n briodol) yn cael ei gyflwyno.

    Manteision defnyddio'r cymalau

    Er bod defnyddio'r cymalau gyda chais am gofrestriad cyntaf yn hollol wirfoddol, mae nifer o fanteision i'w defnyddio.

    • Bydd prydlesi mewn fformat cyson a modern.
    • Bydd cwblhau'r cymalau yn fodd o'ch atgoffa i wneud cais i gofrestru neu nodi buddion sydd wedi'u cynnwys yn y brydles (ee. opsiynau).
    • Gellir cyflwyno ceisiadau am gyfyngiadau safonol trwy ddefnyddio cymal LR13 heb fod angen cyflwyno ffurflen RX1.

    Cofiwch ddefnyddio ffurflenni FR1, DL a DI gyda chofrestriad cyntaf, ac nid ffurflen AP1.

    Dyma ddiwedd y bennod ar gofrestriadau cyntaf.