www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Cymalau Penodedig Gofynion cyffredinol Contents Previous Next

    Gofynion cyffredinol

    Rhaid i'r cymalau ffurfio rhan o'r brydles

    Rhaid i'r cymalau ffurfio rhan annatod o'r brydles a bod yn rhwymedig o fewn y weithred gyflawnedig. Ni allant fod yn ddogfen ar wahân. Rhaid iddynt ymddangos ar flaen y brydles, er y gallant ymddangos yn syth ar ôl unrhyw ddalen flaen neu glawr.

    Diffinnir dalen flaen yn rheol 58A(4) RCT 2003 fel: ".. dalen glawr flaen, neu ddalen gynnwys os yw ar ddechrau'r brydles.."

    Rhaid i wrthran y brydles gynnwys y cymalau hefyd.

    Cwblhau'r cymalau

    Defnyddir y wybodaeth a roddir yn y cymalau penodedig i greu cofnodion cofrestr ac felly rhaid iddynt gael eu cwblhau'n llawn ac yn fanwl gywir.

    Mae'n bwysig iawn sicrhau bod cymal LR2.2 yn cael ei gwblhau gyda rhifau teitl unrhyw deitlau (heblaw'r tir a brydleswyd neu deitl(au) y landlord a ddangosir yng nghymal LR2.1) os oes angen cofnodion ar gyfer opsiynau, cyfamodau cyfyngu, hawddfreintiau neu gyfyngiadau yn y brydles. Os nad yw cymal LR2.2 wedi'i gwblhau, ac nid yw unrhyw gais ar wahân ar ffurflen AP1, AN1, RX1 neu UN1 (fel y bo'n briodol) wedi'i gyflwyno, nid oes rhaid i'r Gofrestrfa Tir nodi'r buddion hyn.

    Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar gynllun y cymalau.