Fformat y cymalau Mae testun y cymalau mewn ffurf benodedig ac ni ddylid ei newid. Gellir llwytho'r cymalau i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir mewn naill ai fformat tabl neu destun.
Defnyddio'r cymalau mewn fformat tabl yw'r dewis gorau, ond nid yw'n ofyniad. Rhaid i chi gynnwys testun y cymalau yn unig. Os na ddefnyddir tabl dylid rhoi'r penawdau ochr o dan brif benawdau'r cymal.
Ffont a maint pwynt Nid yw'r Rheolau yn pennu unrhyw ofynion o ran ffont, llinelliad a maint pwynt ar gyfer y cymalau. Fodd bynnag, mae defnyddio testun du a maint ffont 10 pwynt o leiaf yn helpu gwneud y testun yn ddarllenadwy i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr.
Hepgor cymal penodedig Mae'r Rheolau yn caniatáu i chi hepgor cymalau LR13 (cais am gyfyngiad safonol) a LR14 (datganiad ymddiried), ond bydd eu cadw a nodi'r gair 'dim' yn osgoi dryswch. Rhaid cynnwys pob cymal arall.
Os ydych yn dileu cymal LR13, peidiwch ag ailrifo cymal LR14. Os nad yw un o'r cymalau eraill yn gymwys i'ch prydles gallwch nodi'r gair 'dim'. Bydd ychwanegu 'dim' at gymal yn dangos bod penderfyniad cydwybodol wedi'i wneud bod y brydles heb gynnwys unrhyw fudd y mae angen ei nodi neu ei gofrestru.
Hepgor gwybodaeth mewn cymal Gallwch hepgor pob gair mewn testun italig (ee. y geiriau 'Rhif(au) teitl y rhoddir y brydles hon ohono(ohonynt)...' yng nghymal LR2.1) ac unrhyw eiriad amherthnasol os yw'r cymal yn cynnig mwy nag un dewis, hy. cymal LR8.
Dyma ddiwedd y bennod ar ofynion cyffredinol. |