www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Cymalau Penodedig Trefn y cymalau Contents Previous Next

    Trefn y cymalau

    Fformat y cymalau

    Mae testun y cymalau mewn ffurf benodedig ac ni ddylid ei newid. Gellir llwytho'r cymalau i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir mewn naill ai fformat tabl neu destun.

    Defnyddio'r cymalau mewn fformat tabl yw'r dewis gorau, ond nid yw'n ofyniad. Rhaid i chi gynnwys testun y cymalau yn unig. Os na ddefnyddir tabl dylid rhoi'r penawdau ochr o dan brif benawdau'r cymal.

    Ffont a maint pwynt

    Nid yw'r Rheolau yn pennu unrhyw ofynion o ran ffont, llinelliad a maint pwynt ar gyfer y cymalau. Fodd bynnag, mae defnyddio testun du a maint ffont 10 pwynt o leiaf yn helpu gwneud y testun yn ddarllenadwy i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr.

    Hepgor cymal penodedig

    Mae'r Rheolau yn caniatáu i chi hepgor cymalau LR13 (cais am gyfyngiad safonol) a LR14 (datganiad ymddiried), ond bydd eu cadw a nodi'r gair 'dim' yn osgoi dryswch. Rhaid cynnwys pob cymal arall.

    Os ydych yn dileu cymal LR13, peidiwch ag ailrifo cymal LR14. Os nad yw un o'r cymalau eraill yn gymwys i'ch prydles gallwch nodi'r gair 'dim'. Bydd ychwanegu 'dim' at gymal yn dangos bod penderfyniad cydwybodol wedi'i wneud bod y brydles heb gynnwys unrhyw fudd y mae angen ei nodi neu ei gofrestru.

    Hepgor gwybodaeth mewn cymal

    Gallwch hepgor pob gair mewn testun italig (ee. y geiriau 'Rhif(au) teitl y rhoddir y brydles hon ohono(ohonynt)...' yng nghymal LR2.1) ac unrhyw eiriad amherthnasol os yw'r cymal yn cynnig mwy nag un dewis, hy. cymal LR8.


    Dyma ddiwedd y bennod ar ofynion cyffredinol.