www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Cymalau Penodedig Cyfarwyddyd cyfeirio cyflym Contents Previous Next

    Cyfarwyddyd cyfeirio cyflym

    Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyfarwyddyd cyfeirio cyflym i bob cymal penodedig. I wybod mwy am gwblhau pob cymal dewiswch y rhif cymal perthnasol yng ngholofn chwith y tabl isod.

    Os ydych chi am wybod pryd mae'n rhaid defnyddio'r cymalau, ewch i'r bennod 'Defnyddio'r cymalau'

    Cymal

    Cynnwys

    Disgrifiad byr o gynnwys y cymal

    LR1

    Dyddiad y brydles

    Defnyddiwch y fformat dyddiad llawn: ee. 9 Ionawr 2005.

    LR2

    Rhif(au) teitl

    Rhowch y rhif(au) teitl ar gyfer teitl(au) y landlord (os oes) yn LR2.1. Rhowch unrhyw deitlau eraill y mae'n ofynnol rhoi cofnodion cofrestr yn eu herbyn yng nghymal LR2.2. (Gweler cymalau LR9, 10, 11 a 13.)

    LR3

    Partïon i'r brydles

    Nodwch enw a chyfeiriad llawn y landlord, tenant ac unrhyw barti arall i'r brydles, ee. cwmni rheoli. Dylech gynnwys rhif cofrestru'r cwmni pan fo'n briodol.

    LR4

    Eiddo

    Rhowch ddisgrifiad o'r tir a brydlesir, neu cyfeiriwch at adran briodol y brydles sy'n cynnwys y manylion perthnasol. Gofalwch fod y disgrifiad yn cynnwys manylion unrhyw lefelau lloriau, cynlluniau yn y brydles neu eithriadau ffisegol, gan gynnwys mwyngloddiau a mwynau. Os ydych yn rhoi'r disgrifiad llawn yn y cymal hwn ac mae'r disgrifiad hwnnw yn groes i'r wybodaeth arall yng nghorff y brydles, bydd y Gofrestrfa Tir yn cwblhau cofrestru'r brydles yn seiliedig ar gynnwys y cymal hwn yn unig.

    LR5

    Datganiadau penodedig

    Os oes angen cynnwys datganiad statudol yn y brydles (ee. gwarediad i elusen) dylech gynnwys y datganiad neu gyfeirio at y cymal perthnasol yng nghorff y brydles. Os yw'r brydles wedi'i gwneud dan ddarpariaethau un o'r Deddfau a grybwyllir, dewiswch y Ddeddf berthnasol.

    LR6

    Cyfnod y brydles

    Cwblhewch un o'r tri opsiwn.

    LR7

    Premiwm

    Rhowch fanylion swm llawn unrhyw bremiwm a dalwyd, gan gynnwys TAW, os yw'n berthnasol (ee. £117,500 gan gynnwys TAW).

    LR8

    Gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar waredu'r brydles

    Dewiswch un o'r ddau opsiwn sydd ar gael - hy. naill ai mae'r brydles yn cynnwys neu nid yw'r brydles yn cynnwys darpariaethau sy'n cyfyngu ar warediad.
    Os nad ydych yn cwblhau'r cymal hwn yn gywir, mae'n bosib na fydd y Gofrestrfa Tir yn rhoi unrhyw gofnod o'r gwaharddiad ar y gofrestr.

    LR9

    Hawliau caffael ac ati

    Defnyddiwch y cymal hwn i nodi manylion unrhyw hawliau cytundebol i adnewyddu'r brydles, hawliau i gaffael rifersiwn yr eiddo, hawliau i gaffael budd mewn tir arall, cyfamod i ildio neu hawl i'r landlord gaffael y brydles. Ychwanegwch at gymal LR2.2 unrhyw rifau teitl yr effeithir arnynt heblaw teitl y landlord a nodwyd yng nghymal LR2.1.

     

    LR10

    Cyfamodau cyfyngu a roddir gan landlord mewn perthynas â thir heblaw'r eiddo

    Naill ai nodwch y cyfamodau perthnasol neu cyfeiriwch at y cymal priodol yn y brydles. Gwnewch yn siŵr bod y rhif teitl yr effeithir arno yn cael ei ychwanegu at gymal LR2.2 oni bai ei fod yn deitl y landlord y cyfeirir ato yng nghymal LR2.1

    LR11

    Hawddfreintiau

    Cyfeiriwch at y paragraff perthnasol yn y brydles sy'n cynnwys manylion yr hawddfreintiau. Gofalwch fod rhif teitl unrhyw dir yr effeithir arno yn cael ei ychwanegu at gymal LR2.2 os yw'n wahanol i'r hyn y cyfeirir ato yng nghymal LR2.1. Os ydych yn methu â rhoi manylion yr hawddfreintiau yn y cymal hwn mae'n bosib na fydd gofynion cofrestru adran 27 DCT 2002 yn cael eu bodloni.

    LR12

    Rhent-dâl ystad sy'n faich ar yr eiddo

    Mae'r term 'Rhent-dâl ystad' yma yn golygu rhent-dâl fel y'i diffinnir yn adran 1(2)(b) Deddf Cyfraith Eiddo 1925. Nid yw'n golygu'r rhent blynyddol sy'n daladwy am brydlesu'r eiddo. Cyfeiriwch at y cymal priodol yn y brydles.

    LR13

    Cais am ffurf safonol ar gyfyngiad

    Defnyddiwch y panel hwn i wneud cais am gyfyngiadau safonol yn lle defnyddio ffurflen RX1. Nodwch bob cyfyngiad yn llawn. Rhowch unrhyw rif(au) teitl yr effeithir arnynt yng nghymal LR2.2 (heblaw teitl(au) y landlord a nodwyd yng nghymal LR2.1). Rhaid defnyddio ffurflen RX1 o hyd ar gyfer cyfyngiadau ansafonol.

    LR14

    Datganiad ymddiried os yw'r tenant yn fwy nag un person

    Dylech adael allan pa bynnag ddatganiad sy'n amherthnasol. Os oes un tenant yn unig, dylech adael allan neu ddileu pob un o'r datganiadau eraill.

    Os oes angen i chi wneud cais am gyfyngiad sy'n diogelu ymddiried arall, hy. os yw unig berchennog yn ymddiriedolwr noeth, defnyddiwch gymal LR13.

    Dyma ddiwedd y cyfarwyddyd cyfeirio cyflym