Yn hanesyddol, nid oedd hawddfreintiau mewn prydles yn cael eu disgrifio yn y gofrestr teitl. Yn lle hynny roedd yr hawddfreintiau yn cael eu corffori yn y teitl trwy gyfrwng pennawd safonol yn y Gofrestr Eiddo. O 19 Mehefin 2006 bydd y pennawd a ddefnyddir mewn cofrestri teitl prydlesol yn newid. Bydd y pennawd newydd yr un fath â'r pennawd a ddefnyddir ar deitlau rhydd-ddaliol. Bydd cofnodion penodol yn cyfeirio at yr hawliau a roddir ac a gedwir yn y brydles yn cael eu gwneud hefyd. Bydd testun y cofnodion hyn yn amrywio yn ôl amgylchiadau pob achos. Mae'r canlynol yn enghraifft gyffredin o sut y gall cofrestr newydd edrych.
A. Cofrestr Eiddo | Mae'r gofrestr hon yn disgrifio'r tir a'r ystad a gynhwysir yn y teitl. | HARINGEY: | 1 | (20.06.2006) Y tir prydlesol a amlinellir yn goch ar y cynllun teitl uchod a ffeilir yn y Gofrestrfa sef 4C Pocklar Road, London (N15 6RE).
Nodyn: Dim ond y fflat ail lawr sydd wedi'i gynnwys yn y teitl. | 2 | (20.06. 2006) Manylion byr y brydles(prydlesi) y delir y tir oddi dani(danynt): Dyddiad: | 19 Mehefin 2006 | Cyfnod: | 125 mlynedd llai 1 diwrnod o 19 Mehefin 2006 | Partïon: | (1) John Smith | | (2) The Cornshire Trust | | (3) Andrea Pochelli |
| 3 | (20.06.2006) Mae'r teitl yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol y cyfeirir atynt yng nghymal LR11.1 y brydles gofrestredig ond mae'n ddarostyngedig i unrhyw hawliau a roddir neu a gedwir gan y brydles ac sy'n effeithio ar y tir cofrestredig. |
Bydd testun y cofnod sy'n ymwneud â hawddfreintiau (cofnod Rhif 3 yn yr enghraifft uchod) yn amrywio yn ôl y hawliau yn y brydles, ac a yw unrhyw hawliau wedi'u heithrio o'r cofrestriad, neu ydy'r brydles yn rhoi ac yn cadw hawliau.
Dyma ddiwedd y bennod ar newidiadau i'r gofrestr teitl. |