Yn ôl i'r hafan I'r wefan Saesneg
Prisiau tai
Cofrestrwch eich tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Ewch i Gwasanaethau Add Value
Ewch i Siarter gwybodaeth
Ewch i Cynlluiau cyhoeddiadau

Prydlesi Cymalau Penodedig Newidiadau i'r gofrestr teitl Contents Previous Next

Newidiadau i'r gofrestr

Yn hanesyddol, nid oedd hawddfreintiau mewn prydles yn cael eu disgrifio yn y gofrestr teitl. Yn lle hynny roedd yr hawddfreintiau yn cael eu corffori yn y teitl trwy gyfrwng pennawd safonol yn y Gofrestr Eiddo.

O 19 Mehefin 2006 bydd y pennawd a ddefnyddir mewn cofrestri teitl prydlesol yn newid. Bydd y pennawd newydd yr un fath â'r pennawd a ddefnyddir ar deitlau rhydd-ddaliol. Bydd cofnodion penodol yn cyfeirio at yr hawliau a roddir ac a gedwir yn y brydles yn cael eu gwneud hefyd. Bydd testun y cofnodion hyn yn amrywio yn ôl amgylchiadau pob achos. Mae'r canlynol yn enghraifft gyffredin o sut y gall cofrestr newydd edrych.

A. Cofrestr Eiddo

Mae'r gofrestr hon yn disgrifio'r tir a'r ystad a gynhwysir yn y teitl.

HARINGEY:

1

(20.06.2006) Y tir prydlesol a amlinellir yn goch ar y cynllun  teitl uchod a ffeilir yn y Gofrestrfa sef 4C Pocklar Road, London (N15 6RE).

Nodyn: Dim ond y fflat ail lawr sydd wedi'i gynnwys yn y teitl.

2

(20.06. 2006) Manylion byr y brydles(prydlesi) y delir y tir oddi dani(danynt):

Dyddiad:

19 Mehefin 2006

Cyfnod:

125 mlynedd llai 1 diwrnod o 19 Mehefin 2006

Partïon:

(1) John Smith

(2) The Cornshire Trust

(3) Andrea Pochelli

3

(20.06.2006) Mae'r teitl yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol y cyfeirir atynt yng nghymal LR11.1 y brydles gofrestredig ond mae'n ddarostyngedig i  unrhyw hawliau a roddir neu a gedwir gan y brydles ac sy'n effeithio ar y tir cofrestredig.


Bydd testun y cofnod sy'n ymwneud â hawddfreintiau (cofnod Rhif 3 yn yr enghraifft uchod) yn amrywio yn ôl y hawliau yn y brydles, ac a yw unrhyw hawliau wedi'u heithrio o'r cofrestriad, neu ydy'r brydles yn rhoi ac yn cadw hawliau.

Dyma ddiwedd y bennod ar newidiadau i'r gofrestr teitl.